Literacy

Ieithoedd Tramor (Dechreuwyr)

Mae'r Coleg Rhithwir wedi ymuno â learndirect i gynnig ystod o Ieithoedd ar lefel Dechreuwyr y gellir eu hastudio ar-lein o'ch cartref, eich swyddfa neu unrhyw fan yn y byd sydd â wifi neu gysylltiad â'r rhyngrwyd!  

 

Nid yw ein cyrsiau iaith yn cael eu hasesu'n ffurfiol, ond mae yna lawer o ymarferion a chwisiau y gallwch chi eu gwneud cyn amled ag y mynnwch i ymarfer eich sgiliau iaith a phrofi eich gwybodaeth. Nid yw'r cyrsiau iaith yn gysylltiedig â chymhwyster, ond byddwch yn cael datganiad o gwblhad pan fyddwch wedi cyrraedd sgôr benodol yn eich ymarferion a'ch cwisiau.

 

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar y cyrsiau hyn.

Er mwyn cymryd rhan mewn cwrs iaith bydd angen cyfrifiadur neu liniadur arnoch â Flash wedi'i osod, seinyddion neu glustffonau yn ogystal â meicroffon. Sylwer na fydd y cyrsiau yn rhedeg ar unrhyw gynnyrch Apple.

 

Gellir cael sampl am ddim o'n cwrs Sbaeneg trwy glicio yma.

Ceir rhestr lawn isod (Pob un am bris o £28 )

 

Iaith
Arabeg (dechreuwyr)
Cantoneg (dechreuwyr)
Ffrangeg (dechreuwyr)
Almaeneg (dechreuwyr)
Groeg (dechreuwyr)
Eidaleg (dechreuwyr)
Siapaneg (dechreuwyr)
Pwyleg (dechreuwyr)
Rwsieg (dechreuwyr)
Sbaeneg (dechreuwyr)


Pris
: £28 yr un

Hyd: uchafswm o 12 wythnos yr un

Lefel: Dechreuwyr

Corff dyfarnu: ar gwblhau mae tystysgrif learndirect ar gael i'w lawrlwytho

Dewiswch gwrs