Languages

main ld languages 2

learndirect log article 2

 

Gall dysgu iaith eich helpu wrth i chi deithio, ehangu eich gwybodaeth am wahanol wledydd a diwylliannau, agor drysau i gyfleoedd gyrfaol byd-eang, cynorthwyo plant gyda gwaith cartref a hyd yn oed datblygu sgiliau iaith newydd sydd yn boblogaidd yn eich cymuned leol megis Cymraeg neu Bwyleg.  Gallwch ddysgu amrywiaeth enfawr o ieithoedd gydag ein cyrsiau ar-lein - o ieithoedd a siaredir yn eang megis Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg, i rai a ddefnyddir gan lai o bobl fel Abruzzese ac Iorwba ac rydym hyd yn oed yn gwneud Klingon sydd yn anrheg Nadolig eithaf poblogaidd!

Daw'r rhan fwyaf o ieithoedd mewn pedair lefel:

  • Siarad Nawr (Talk Now): Lefel Mynediad (Dechreuwr)
  • Siarad Mwy (Talk More): Lefel 1 (Dechreuwr Plws)
  • Talk the Talk: Lefel 2 (Canolradd)
  • Siarad Busnes (Talk Business): Lefel 2 (gydag elfen fusnes)

Mae tocynnau anrheg hefyd ar gael.


Gweler tudalen cwestiynau cyffredin LearnDirect am wybodaeth am brisiau wrth glicio yma.

Hyd yn oed os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae'r rhan fwyaf o gyrsiau lefel isel yn caniatáu i chi gael help a chymorth mewn dros 100 o ieithoedd. 

 

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ffoniwch Karen Thomas ar 01554 748078, neu anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

ld enrol now